Y Cyngor Cymuned

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Waunfawr sydd yn cynnwys pentrefi Waunfawr a Chaeathro a’r ardal wledig o gwmpas.  Mae’n gorff ddemocrataidd sydd yn trafod materion lleol ac yn cynnal a chadw eiddo’r Gymuned.  Mae’r Cyngor yn cymeryd camau positif i hyrwyddo cydraddoldeb ymysg y Cynghorwyr.

Cynhelir y cyfarfodydd bob 6 wythnos ar nos Fercher fel arfer.  Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol yn ystod mis Mai ac mae croeso i bob aelod o’r gymuned i ddod yno i wrando a lleisio barn ond ddim i bledleisio (gweler y bocs at y dde) .Cofnodir pob penderfyniad a sylwadau perthnasol gan y Clerc a’r Clerc yw’r Swyddog Cyllid Cyfrifol yn ogystal.  Cymraeg yw iaith swydogol y Cyngor a’r iaith weinyddol fewnol.

Mae gan y Cyngor nifer o hawliau a dyletswyddau statudol.  Ymysg y rhain mae gofalu am eiddo’r Cyngor,  talu am dorri gwair llwybrau cyhoeddus, talu am dorri gwair Cae Chwarae Caeathro a Gerddi Bach, cyflogi Clerc rhan amser a rhoi cymorth ariannol i rai elusenau a mudiadau.

Waunfawr_v1 2

 

Dyddiadau cyfarfodydd am y flwyddyn 2023-24

Adroddiad Blynyddol Cyngor Cymuned Waunfawr 2022

240510 – Hysbyseb Swydd – CYNGOR CYMUNED WAUNFAWR A CHAEATHRO (estyniad)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *